SL(6)390 – Gorchymyn Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023
Cefndir a diben
Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”) yn gwahardd cyflenwi cynhyrchion plastig untro penodol i ddefnyddwyr yng Nghymru, oni bai bod esemptiad. Mae'r cynhyrchion penodol a'r esemptiadau perthnasol yn cael eu nodi yn y Tabl yn yr Atodlen i'r Ddeddf.
Daeth adrannau 3, 4, 17, 21, 22 a 23 o’r Ddeddf i rym ar 7 Mehefin 2023, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol.
Mae Gorchymyn Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 (“y Gorchymyn”) yn dwyn i rym holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf, ac eithrio tri chofnod yn y Tabl o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig.
O ganlyniad, o 30 Hydref 2023, bydd yn drosedd i gorff corfforaethol, partneriaeth, cymdeithas anghorfforedig neu berson sy'n gweithredu fel unig fasnachwr, gyflenwi, neu gynnig cyflenwi, y cynhyrchion plastig untro canlynol i ddefnyddiwr yng Nghymru, oni bai bod esemptiad:
· cwpanau,
· cytleri;
· troyddion diodydd,
· gwellt,
· platiau,
· cynhwysyddion cludfwyd,
· ffyn balwnau, a
· ffyn cotwm.
Y weithdrefn
Cadarnhaol
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Gorchymyn gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Yn unol ag adran 21(3) o’r Ddeddf, mae’r Gorchymyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Mae’n anarferol iawn i orchymyn cychwyn fod yn ddarostyngedig i’r lefel hon o graffu yn y Senedd; nid yw mwyafrif y gorchmynion cychwyn yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn graffu yn y Senedd.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Yn ôl paragraff 4.4 o’r Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r gwaharddiad ar y cynhyrchion plastig untro penodol fesul cam.
Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym wyth o'r 11 cofnod yn y Tabl o gynhyrchion gwaharddedig yn yr Atodlen i'r Ddeddf. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro:
· pam nad yw’r gwaharddiadau sy’n ymwneud â chaeadau ar gyfer cwpanau neu gynwysyddion cludfwyd, bagiau siopa a chynhyrchion a wnaed o blastig ocso-ddiraddiadwy yn cael eu cychwyn ar yr adeg hon,
· pryd y bydd gweddill y cofnodion yn y Tabl yn cael eu cychwyn, a
· sawl cam arall sydd yn yr arfaeth i ddwyn y gwaharddiadau sy'n weddill i rym?
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (“UKIMA”) yn cynnwys egwyddorion mynediad i’r farchnad sydd, yn fras, yn sicrhau bod nwyddau y gellir eu gwerthu’n gyfreithlon mewn un rhan o’r DU hefyd yn gallu cael eu gwerthu yn rhywle arall yn y DU, heb unrhyw ofynion perthnasol a fyddai fel arall yn gymwys i werthu’r nwyddau hynny yn y rhan arall honno o’r DU. Mae paragraff 13 o Atodlen 1 i UKIMA yn darparu nad yw’r egwyddorion mynediad i’r farchnad yn gymwys i ddeddfwriaeth i’r graddau y mae’n gwahardd gwerthu rhai eitemau plastig untro penodol.
Nodir bod y cynhyrchion a restrir yn y cofnodion yn y Tabl a ddygwyd i rym gan y Gorchymyn yr un fath â’r eitemau sydd wedi’u heithrio o egwyddorion mynediad i’r farchnad yn UKIMA gan baragraff 13 o Atodlen 1 i UKIMA.
Nid yw’r cynhyrchion a restrir yn y tri chofnod yn y Tabl nad ydynt yn cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn – caeadau ar gyfer cwpanau neu gynwysyddion cludfwyd, bagiau siopa a chynhyrchion a wnaed o blastig ocso-ddiraddadwy – wedi’u cynnwys ym mharagraff 13 o Atodlen 1 i UKIMA ac felly mae’n ymddangos nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr eithriad o'r egwyddorion mynediad i'r farchnad.
Yn ystod hynt y Bil a ddaeth yn Ddeddf, cododd y Pwyllgor hwn bryderon ynghylch effaith egwyddorion mynediad i’r farchnad yn UKIMA ar effeithiolrwydd y darpariaethau yn y Bil. Gofynnir i Lywodraeth Cymru a yw’n parhau i fod o’r farn y bydd y Ddeddf yn “gwbl effeithiol ac yn orfodadwy”[1] pan gaiff ei chychwyn yn llawn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r ail a’r trydydd pwynt adrodd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Hydref 2023